Myfanwy

Paham mae digter O Myfanwy
Yn llenwi'th lygaid duon di
A'th ruddiau tirion O Myfanwy
Heb wrido wrth fy ngweled I ?
Pa le mae'r wen oedd ar  dy wefus
Fu'n cyneu cariad ffyddlon ffol
Pa le mae sain dy eiriau melus
Fu'n denu nghalon ar dy ol

Pa beth a wnaethwn O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd
Ai chwareu'r oeddit, O Myfanwy
A thanau auraidd serch dy fardd
Wyt eiddo I'm trwy gywir ammod
A'i gormod cadw'th air i mi?
Ni fynaf byth mo'th law, Myfanwy
Heb gael dy galon gyda hi.

Myfanwy, boed yr oll o'th fywyd,
Dan heulwen ddysglaer canol dydd
A boed I rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd
Ang hofia'r oll o'th add ewidion
A wneist I rywun ‘eneth ddel
A dy roth law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair Ffarwel

(play it again)

to download the audio file (right click here and save target as... or save link as....)