Ysbryd Y Nos

Pan ddaw lleisiau’s nos i’m hoeni
A sibrwd gwag y gwynt i’m hoeri
Ti sy’n lliwio’r blode,
a mantel gwlyth y bore
Tyrd ysbryd y nos
A’r tonnau’n llusgo’r cregyn arian
Yn sifrwd yn eu lifrai sedan
Mi wn y byddi ynno
Yn barod i’m cysuro,
Tyrd ysbryd y nos

Ysbryd y nos, tyrd yma’n awr
Gwasgara’r ofnau cyn daw’r wawr
Diffordd y t’wyllwch, tyrd a’r dydd
Gad i’m ddod o’r nos yn rhydd.

Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd,
Yn gyness yn dy olau peraidd
A bysedd brau y barug
yn deffro hun y cerrig
Tyrd ysbryd y nos

Ysbryd y nos, tyrd yma’n awr
Gwasgara’r ofnau cyn daw’r wawr
Diffordd y t’wyllwch, tyrd a’r dydd
Gad i’m ddod o’r nos yn rhydd.

Ysbryd y nos rho d’olau mwyn.
Ysbryd y nos rho i’m dy swyn
Ysbryd y nos fel angel y dydd
Ysbryd y nos, enaid y pridd

Ac ynno yn y dyffryn tawel
Mi glywaf gan yn swn yr awel
A neges hud y geirier
yn hedfan dros y brnier
Tyrd ysbryd y nos

Ysbryd y nos, tyrd yma’n awr
Gwasgara’r ofnau cyn daw’r wawr
Diffordd y t’wyllwch, tyrd a’r dydd
Gad i’m ddod o’r nos yn rhydd.

Ysbryd y nos, tyrd yma’n awr
Gwasgara’r ofnau cyn daw’r wawr
Diffordd y t’wyllwch, tyrd a’r dydd
Gad i’m ddod o’r nos yn rhydd.

 

(play it again)

to download the audio file (right click here and save target as... or save link as....)